Dweud eich Dweud am ein Gwasanaeth
Ydych chi'n drwm eich clyw neu'n fyddar?
Hoffech chi ddylanwadu ar y gwasanaethau a gewch oddi wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Awdioleg?
Dyma'ch cyfle!
Llais Wrecsam ydi'r Fforwm lleol ar gyfer oedolion trwm eu clyw neu fyddar. Prif bwrpas y fforwm ydi cynghori a gweithio efo Awdiolegwyr yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru a swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddatblygu gwasanaethau newydd a gwella gwasanaethau presennol ar gyfer oedolion byddar a thrwm eu clyw.
Dyma'ch cyfle chi i gael llais a chyfrannu tuag at ddarparu gwell gwasanaeth.
Maent yn cyfarfod bob 3 mis yn Wrecsam. Am ddyddiad y cyfarfod nesaf, ffoniwch yr Adran Awdioleg ar 01978 725304 neu e-bostiwch Audiology@new-tr.wales.nhs.uk