Gwasanaethau Awdioleg Oedolion

Gwasanaethau Awdioleg Oedolion

Adferiad Clywedol

Mae'r adran yn cynnig ystod llawn o adferiad Awdioleg i helpu cleifion efo anawsterau clywed a chydbwysedd. Os ydych yn oedolyn, bydd ein gwasanaethau adferiad yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen i addasu eich diffyg clyw, sut i wneud y mwyaf o'ch cymhorthion clywed, archwilio dyfeisiadau clywed cynorthwyol a allai eich helpu a rheoli eich cyfathrebu.

Sut i gael at ein Gwasanaethau

Dylai cleifion sy'n amau bod ganddynt broblem clywed gysylltu â'u meddyg teulu. Gellir cyfeirio cleifion dros 50 oed yn uniongyrchol i'r adran am ddarpariaeth cymorth clyw. Bydd y rheiny dan 50 oed yn cael eu cyfeirio at ymgynghorydd CTG, a fydd yn cynnal asesiad ac yn eu cyfeirio i'r adran Awdioleg am adferiad lle bydd hynny'n briodol.

Yr hyn a wnawn

Mae ein Gwasanaeth Adferiad yn cynnwys yr agweddau canlynol.

  • Asesu
  • Triniaeth ac Adferiad
  • Cefnogaeth