Hanes yr Adran

Mae'r adran yn gwasanaethu poblogaeth o tua 300,000 ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Y prif ganolfan ydi Ysbyty Maelor Wrecsam lle cynigir ystod cynhwysfawr o wasanaethau lefel cymunedol. Hefyd darperir cefnogaeth clinig CTG a gwasanaeth adferiad sylfaenol mewn 7 safle ymylol ar draws yr ardal a wasanaethir (gan gynnwys Y Trallwng, Y Drenewydd a Llanidloes). Cynigir Gwasanaethau Clyw Plant yng nghanolfan Iechyd Plant Wrecsam (ar gampws Y Maelor) ac amryw glinigau gwahanol eraill yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Mae nifer y staff wedi cynyddu'n raddol dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn darparu ar gyfer datblygiadau yn y gwasanaeth a'r llwyth gwaith trymach. Arweinir y gwasanaeth gan Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol, ac mae gennym hefyd Baediatregydd Ymgynghorol (Awdioleg), 11 Awdiolegydd, 6 Gwyddonydd Awdiolegol, 3 Awdiolegydd Cynorthwyol a chefnogaeth weinyddol ymroddedig.

Adeiladwyd y brif adran yn Wrecsam yn bwrpasol ym 1997 ac mae'n cynnwys 4 ystafell wrthsain (un efo ystafell arsylwi), ystafelloedd adferiad pwrpasol a swyddfeydd. Gorffennwyd estyniad i'r adran ym mis Ebrill 2003. Darparodd hwn swyddfeydd ychwanegol a chynyddu'r nifer o ystafelloedd adfer i 7. O ganlyniad i'r estyniad hwn, mae gan yr holl staff clinigol proffesiynol eu desg a'u cyfrifiadur rhwydweithiol eu hunain. Mae ystod llawn o offer profi modern ar gael a system wybodaeth rwydweithiol yn cysylltu pob ystafell.

Yn ddiweddar mae'r gwasanaeth wedi cael buddsoddiad sylweddol ychwanegol, gan gynnwys yr hyn a gafwyd fel rhan o'r Prosiect Moderneiddio Gwasanaethau Awdioleg yng Nghymru (MASW). Mae'r cyfleusterau yn yr holl glinigau allanol wedi cael eu gwella i'r un safon a'r brif ganolfan ac mae'r staff clinigol wedi cael hyfforddiant ar gyfer ffitio cymhorthion clywed technoleg newydd (digidol). Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn gweithredu Gwasanaethau Cymhorthion Clyw drwy Asgwrn (BAHA) ar gyfer Gogledd Cymru. Gogledd Ddwyrain Cymru hefyd oedd un o'r ddau safle cyntaf i gyflwyno sgrinio clyw babanod newydd-anedig yng Nghymru.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth hanes rhagorol o gefnogi staff awdioleg yn eu datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn wedi cynnwys nawdd ar gyfer cyrsiau MSc a sawl cwrs mewnol ac allanol er mwyn cynnal effeithiolrwydd y staff a'r gwasanaeth.

Mae'r gwasanaeth â hanes o gyhoeddi ymchwil gan gynnwys prosiectau ar y cyd â Phrifysgol Manceinion ym maes asesiad paediatrig. Mae'r aelodau staff yn adnabyddus ar lefel genedlaethol ym maes Awdioleg, ac mae eraill sy'n gwella gwasanaethau mewn meysydd eraill wedi elwa o'u harbenigedd a thrwy eu cyfraniadau i brosiectau cenedlaethol.

Yn gryno, mae Gwasanaeth Awdioleg Gogledd Ddwyrain Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran datblygiadau ym maes Awdioleg yng Nghymru. Bydd datblygiadau pellach yn dilyn yn olion hyn. Fel gweithle, cynigiwn amgylchedd sy'n ddeniadol, efo staff deallus a rheolwyr sy'n cefnogi datblygiad proffesiynol.