Gwasanaethau Clyw Plant

Profion Clyw

Mae ein tîm Gwasanaethau Clyw Plant yn cynnig profion clyw ar gyfer plant, yn y gymuned mewn clinigau o gwmpas Gogledd Cymru, ac yn ein hadran arbennig yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae babanod sy'n cael eu geni yng Nghymru hefyd yn cael eu sgrinio am ddiffyg clyw cyn iddynt adael yr ysbyty neu o fewn y cartref. Gweithredir hyn gan Sgrinio Clyw Babanod Cymru, ac mae Swyddfa Ranbarthol Gogledd Cymru yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae ein tîm Gwasanaethau Clyw Plant yn cefnogi'r rhaglen sgrinio efo cyfeiriadau ar gyfer profion pellach.

Triniaeth a Rheolaeth

Rydym hefyd yn cynnig triniaeth a rheolaeth pellach pe deuir o hyd i ddiffyg clyw. Digwydd hyn ar y cyd ag adrannau eraill yr ysbyty. Mae ein gwasanaeth yn gofalu am nifer o ardaloedd yng Nghymru gan gynnwys Wrecsam, Sir y Fflint a Gogledd Powys (i'r gogledd o Landrindod) a'i ganolfan ydi Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae gwahanol fathau o ddiffyg clyw y gallai plentyn ddioddef ohono, yn ogystal â diffyg clyw ar wahanol raddau. Mae gan y rhain wahanol effeithiau ar allu'r plentyn i glywed. Waeth beth fo'r gallu clywed, mae yna nifer o awgrymiadau cyfathrebu a allai eich helpu i gyfathrebu'n llwyddiannus efo'ch plentyn.

Pan ddeuir o hyd i ddiffyg clyw, rydym yn gweithio efo adrannau eraill yn yr ysbyty i gynnig triniaeth o'r glust a/neu reolaeth o glyw eich plentyn. Mae'r opsiynau sydd ar gael yn dibynnu ar ddiffyg clyw penodol eich plentyn chi. Efallai y cewch eich cyfeirio i'r Adran Clust, Trwyn a Gwddf (CTG). Yno byddant yn gallu asesu'r opsiynau triniaeth posibl ar gyfer diffyg clyw penodol eich plentyn. Efallai byddwn yn gallu helpu trwy ddarparu cymhorthion clyw ar gyfer eich plentyn. Er mwyn cael gwybodaeth benodol am gyflwr eich plentyn, holwch y tîm Gwasanaethau Plant yn eich apwyntiad nesaf.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Clyw Plant ar 01978 727006.